Oxford Cymru a Seren
Rydym wedi gweithio yn agos gyda rhwydwaith Seren Llywodraeth Cymru ers sawl blwyddyn bellach. Bydd Oxford Cymru yn parhau i ddatblygu ein perthynas gyda Seren a'n Hybiau Seren cysylltiol ar draws Cymru.
Rydym yn mynychu y mwyafrif o brif ddigwyddiadau Seren megis Cynhadledd Flynyddol Seren, digwyddiadau proses mynediad prifysgolion a lansiadau Hwb rhanbarthol. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda Hybiau Seren i gynnig Diwrnodau Blasu, gweithdai mynediad a gwybodaeth, dosbarthiadau meistr pwnc a rhaglenni academaidd eraill yng Nghymru ac yn Rhydychen.
Ysgolion Haf Seren Coleg yr Iesu – Blwyddyn 12
Digwyddiadau blaenllaw Coleg yr Iesu - Ysgolion Haf Seren Coleg yr Iesu - yw uchafbwynt rhaglen digwyddiadau haf Coleg yr Iesu ble mae’r Coleg a'i bartneriaid yn gweithio gyda 360+ o ddysgwyr Seren!
Ar gyfer 2022, roedd y rhaglen ysgolion haf yn fwy ac yn well nag erioed. Cynhaliwyd dwy ysgol haf ym mis Gorffennaf ac Awst:
- Ysgol Haf Ryngwladol Ar-lein: Rhaglen pythefnos o hyd sy’n canolbwyntio ar bwnc, gyda phrojectau wedi eu seilio ar senarios a gaiff eu cyflwyno i arbenigwyr yn Llywodraeth Cymru.
- Ysgol Haf Breswyl Coleg yr Iesu: Digwyddiad preswyl rhyngddisgyblaethol sy’n canolbwyntio ar sgiliau a oedd yn archwilio’r thema ‘ar y blaen!’ Ymunodd saith deg chwech o ddysgwyr Seren â ni yn Rhydychen i gael profiad o ddarlithoedd academaidd, seminarau tiwtorialau a gweithdai mynediad - blas ymdrochol o fywyd fel myfyriwr Rhydychen!
Disgwylir i geisiadau ar gyfer 2023 agor ddiwedd 2022. Mae’r rhaglenni yma’n gystadleuol iawn ac rydym yn annog darpar fyfyrwyr Blwyddyn 12 Seren i wneud cais pan fo’n briodol. Ewch i wefan Coleg yr Iesu yma, a fydd yn cael ei diweddaru pan fydd gwybodaeth bellach ar gael.
O achos pandemig Coronafirws Covid-19, symudwyd Ysgol Haf 2020 i fod yn rhaglen rithiol. Gweler isod am yr hyn oedd gan ddosbarth 2020 i'w ddweud am eu profiad rhithiol. Gallwch hefyd weld sawl recordiad o ddarlithoedd Ysgol Haf blaenorol ar Sianel YouTube Coleg yr Iesu.