![students at an open day](https://www.ox.ac.uk/sites/files/oxford/styles/ow_large_feature/s3/Wales%202.jpg?itok=M-DIf3EX)
Ein Myfyrwyr
Nid ydych chi'n anghofio eich gwreiddiau pan rydych yn dod i Rydychen i astudio... mae gennym gymdeithas Gymraeg ffyniannus yma! Mae myfyrwyr Cymraeg yn ymuno â ni o Gymru benbaladr bob blwyddyn, gydag amrediad o ddiddordebau academaidd.
Mae ein myfyrwyr yn treulio eu hamser nid yn unig wrth weithio'n galed yn eu hastudiaethau ac yn mwynhau yr holl gyfleon cymdeithasol a diwylliannol a gynigir gan Rhydychen, ond hefyd wrth gefnogi gweithgareddau estyn allan ar gyfer y Brifysgol. Os ydych yn ymweld â Rhydychen gyda'ch ysgol neu yn annibynnol, fe wnawn ein gorau i drefnu bod myfyrwyr ar gael fel y gallwch eu holi am sut fath o beth yw bod yn fyfyriwr yn Rhydychen!
Dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf byddwch yn darganfod mwy am ein myfyrwyr wrth i ni boblogi'r dudalen hon gyda ffilmiau, lluniau ac ymddangosiadau gan israddedigion Cymraeg presennol Prifysgol Rhydychen.
Dyma ein myfyrwyr Carys a Lois yn trafod eu profiadau.
![Myfyrwyr yn siarad gydag ymwelwyr ysgol yng Ngholeg yr Iesu Myfyrwyr yn siarad gydag ymwelwyr ysgol yng Ngholeg yr Iesu](https://www.ox.ac.uk/sites/files/oxford/07Nov2019_Caerphily%20Schools_Abi-SerenM.jpg)
Efallai bod gennych ddiddordeb mewn clywed gan un o gymdeithasau hynaf Rhydychen: Cymdeithas Dafydd ap Gwilym - Cymdeithas Gymraeg Prifysgol Rhydychen. Gweler eu ffilm fer isod i ddargranfod mwy am brofiad myfyrwyr Cymraeg yn Rhydychen.
|Hafan|